Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 23:16-29

Jeremeia 23:16-29 BWM

Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr ARGLWYDD. Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed. Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr ARGLWYDD, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd? Wele, corwynt yr ARGLWYDD a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus. Digofaint yr ARGLWYDD ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur. Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd. Ai DUW o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid DUW o bell? A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr ARGLWYDD: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr ARGLWYDD. Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais. Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt. Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr ARGLWYDD. Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr ARGLWYDD; ac fel gordd yn dryllio’r graig?