Barnwyr 6:11-16
Barnwyr 6:11-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i’w guddio oddi wrth y Midianiaid. Pan welodd yr angel, dyma’r angel yn dweud wrtho, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy’r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o’r Aifft!’ – dyna roedden nhw’n ei ddweud. Ond bellach mae’r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i’r Midianiaid ein rheoli.” Ond yna, dyma’r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti’n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy’n dy anfon di.” Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di’n taro’r Midianiaid i gyd ar unwaith!”
Barnwyr 6:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.” Atebodd Gideon ef, “Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, ‘Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?’ Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian.” Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, “Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?” Atebodd yntau, “Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Yn sicr byddaf fi gyda thi, a byddi'n taro'r Midianiaid fel pe baent un gŵr.”
Barnwyr 6:11-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i’w guddio rhag y Midianiaid. Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol. A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr ARGLWYDD a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid. A’r ARGLWYDD a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi? Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr.