Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.” Atebodd Gideon ef, “Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, ‘Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?’ Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian.” Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, “Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?” Atebodd yntau, “Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Yn sicr byddaf fi gyda thi, a byddi'n taro'r Midianiaid fel pe baent un gŵr.”
Darllen Barnwyr 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 6:11-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos