Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i’w guddio oddi wrth y Midianiaid. Pan welodd yr angel, dyma’r angel yn dweud wrtho, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy’r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o’r Aifft!’ – dyna roedden nhw’n ei ddweud. Ond bellach mae’r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i’r Midianiaid ein rheoli.” Ond yna, dyma’r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti’n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy’n dy anfon di.” Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di’n taro’r Midianiaid i gyd ar unwaith!”
Darllen Barnwyr 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 6:11-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos