Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6

6
Gideon
1Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma fe’n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd. 2Roedd y Midianiaid mor greulon nes i lawer o bobl Israel ddianc i’r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill. 3Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobl eraill o’r dwyrain yn ymosod arnyn nhw. 4Roedden nhw’n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio’r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw’n dwyn y defaid, yr ychen a’r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta. 5Pan oedden nhw’n dod gyda’u hanifeiliaid a’u pebyll, roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw, roedd hi’n amhosib eu cyfri nhw na’u camelod. Roedden nhw’n dod ac yn dinistrio popeth.
6Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian, a dyma nhw’n gweiddi’n daer ar yr ARGLWYDD am help. 7-8Pan ddigwyddodd hynny, dyma’r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision. 9Gwnes i’ch achub chi o’u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi’n eu gyrru nhw allan o’ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi. 10A dwedais wrthoch chi, ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau’r Amoriaid dych chi’n byw ar eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.”
11Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i’w guddio oddi wrth y Midianiaid. 12Pan welodd yr angel, dyma’r angel yn dweud wrtho, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” 13“Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy’r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o’r Aifft!’ – dyna roedden nhw’n ei ddweud. Ond bellach mae’r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i’r Midianiaid ein rheoli.” 14Ond yna, dyma’r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti’n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy’n dy anfon di.” 15Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” 16A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di’n taro’r Midianiaid i gyd ar unwaith!”
17Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy’n siarad hefo fi go iawn. 18Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i’w gyflwyno i ti.” “Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai’r ARGLWYDD.
19Felly dyma Gideon yn mynd a pharatoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a’r cawl mewn crochan a dod â’r bwyd i’w roi i’r angel oedd o dan y goeden dderwen. 20Yna dyma’r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a’r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.” Pan wnaeth Gideon hynny, 21dyma’r angel yn cyffwrdd y cig a’r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn, dyma fflamau tân yn codi o’r garreg a llosgi’r cig a’r bara. Yna diflannodd angel yr ARGLWYDD. 22Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr ARGLWYDD oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr, ARGLWYDD. Dw i wedi gweld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb!” 23Ond meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Ti ddim yn mynd i farw.” 24A dyma Gideon yn adeiladu allor yno i’r ARGLWYDD, a rhoi’r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae’n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.)
25Y noson honno, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu’r allor sydd gan dy dad i Baal, a thorri’r polyn Ashera sydd wrth ei hymyl. 26Wedyn dw i eisiau i ti adeiladu allor i’r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma, a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu’r tarw yn offrwm i’w losgi’n llwyr.” 27Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr ARGLWYDD. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod arno ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref.
28Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi’i dryllio a pholyn y dduwies Ashera wedi’i dorri i lawr. A hefyd yr allor newydd oedd wedi’i chodi, gydag olion y tarw oedd wedi’i aberthu arni. 29“Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Ar ôl holi’n fanwl, dyma nhw’n darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth. 30Dyma nhw’n mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!” 31Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi’n mynd i’w achub e? Bydd unrhyw un sy’n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio’i allor!” 32Y diwrnod hwnnw, dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal,#6:32 Jerwb-baal sef, “Gadewch i Baal ymladd”. ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, am ei fod wedi chwalu allor Baal.”
33Dyma’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o’r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel. 34A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Chwythodd y corn hwrdd#6:34 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. a galw byddin o ddynion o glan Abieser i’w ddilyn. 35Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion at ei gilydd, a dyma nhw i gyd yn dod i wynebu’r gelynion.
36Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti’n mynd i’m defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny’n wir. 37Heno dw i’n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a’r ddaear o’i gwmpas yn sych, bydda i’n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti’n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.” 38A dyna ddigwyddodd! Pan gododd Gideon y bore wedyn, dyma fe’n gwasgu’r gwlân a dyma lond powlen o wlith yn diferu ohono. 39Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda’r gwlân. Y tro yma, cadw’r gwlân yn sych tra mae’r ddaear o’i gwmpas yn wlith i gyd.” 40A’r noson honno, dyna’n union wnaeth Duw. Dim ond y gwlân oedd yn sych. Roedd y ddaear o’i gwmpas yn wlith i gyd.

Dewis Presennol:

Barnwyr 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda