Eseia 25:7-9
Eseia 25:7-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio’r llen sy’n gorchuddio wynebau’r bobloedd, a’r gorchudd sy’n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o’r tir. –mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Bryd hynny bydd y bobl yn dweud
Eseia 25:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd a daenwyd dros yr holl bobloedd, llen galar sy'n cuddio pob cenedl; llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn. Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, “Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu; dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”
Eseia 25:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein DUW ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr ARGLWYDD; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef.