Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 25

25
1O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd. 2Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth. 3Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda: 4Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. 5Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.
6Ac Arglwydd y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig. 7Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. 8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr Arglwydd a’i llefarodd.
9A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr Arglwydd; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef. 10Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen. 11Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo. 12Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.

Dewis Presennol:

Eseia 25: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd