Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 25

25
Moliant i Dduw
1O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti;
mawrygaf di a chlodforaf dy enw
am iti gyflawni bwriad rhyfeddol,
sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
2Gwnaethost ddinas yn bentwr,
a thref gaerog yn garnedd;
ysgubwyd ymaith y plasty o'r ddinas,
ac nis adeiledir byth eto.
3Am hynny y mae pobl nerthol yn dy ogoneddu,
a dinasoedd cenhedloedd trahaus yn dy barchu.
4Canys buost yn noddfa i'r tlawd,
yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder,
yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres.
Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,
5neu fel gwres ar dir sych.
Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid;
fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl,
felly y bydd cân y trahaus yn distewi.
Gwledd ar Fynydd Seion
6Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd
yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd,
gwledd o win wedi aeddfedu,
o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.
7Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd
a daenwyd dros yr holl bobloedd,
llen galar sy'n cuddio pob cenedl;
8llyncir angau am byth,
a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb,
ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear.
Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
9Yn y dydd hwnnw fe ddywedir,
“Wele, dyma ein Duw ni.
Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu;
dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano,
gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”
10Oherwydd bydd llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys dros y mynydd hwn,
ond fe sethrir Moab dan ei draed
fel sathru gwellt mewn tomen;
11bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol,
fel nofiwr yn eu hestyn i nofio,
ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.
12Bydd yr ARGLWYDD yn bwrw'r amddiffynfa i lawr,
ac yn gwneud eich muriau yn gydwastad â'r pridd,
a'u taflu i lawr i'r llwch.

Dewis Presennol:

Eseia 25: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd