Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 25

25
Cân o fawl i Dduw
1 ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i!
Dw i’n dy ganmol di, dw i’n moli dy enw!
Ti wedi gwneud peth rhyfeddol –
rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl;
ti’n gwbl ddibynadwy!
2Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig,
troi’r gaer amddiffynnol yn adfeilion!
Gaiff y palas estron fyth ei ailadeiladu!
3Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di,
a threfi’r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!
4Ond rwyt ti’n dal yn lle diogel i’r rhai tlawd guddio,
yn lle i’r anghenus gysgodi mewn argyfwng,
yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.
Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,
5neu fel gwres yr haul yn crasu’r tir,
rwyt ti’n tewi twrw’r estroniaid.
Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu’r gwres,
ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.
Duw yn paratoi gwledd
6Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus
yn paratoi gwledd o fwyd blasus i’r cenhedloedd i gyd:
gwledd o winoedd aeddfed,
bwyd blasus gyda’r gwin gorau.
7Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio’r llen
sy’n gorchuddio wynebau’r bobloedd,
a’r gorchudd sy’n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd.
8Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth.
Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD,
yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb,
a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o’r tir.
–mae’r ARGLWYDD wedi dweud.
9Bryd hynny bydd y bobl yn dweud:
“Dyma’n Duw ni, yr un roedden ni’n disgwyl iddo’n hachub.
Dyma’r ARGLWYDD roedden ni’n ei drystio.
Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.”
10Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn.
Cosbi Moab
Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo
fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen.#Eseia 15:1–16:14; Jeremeia 48:1-47; Eseciel 25:8-11; Amos 2:1-3; Seffaneia 2:8-11
11Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol,
fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio.
Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo
hefo symudiad ei ddwylo.
12Bydd y waliau diogel sy’n eu hamddiffyn
yn cael eu bwrw i lawr ganddo;
bydd yn eu chwalu i’r llawr –
nes byddan nhw yn y llwch.

Dewis Presennol:

Eseia 25: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd