Eseia 25:6-8
Eseia 25:6-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i’r cenhedloedd i gyd: gwledd o winoedd aeddfed, bwyd blasus gyda’r gwin gorau. Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio’r llen sy’n gorchuddio wynebau’r bobloedd, a’r gorchudd sy’n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o’r tir. –mae’r ARGLWYDD wedi dweud.
Eseia 25:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân. Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd a daenwyd dros yr holl bobloedd, llen galar sy'n cuddio pob cenedl; llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
Eseia 25:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ARGLWYDD y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd.