Eseia 25:4-9
Eseia 25:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canys buost yn noddfa i'r tlawd, yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder, yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres. Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer, neu fel gwres ar dir sych. Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid; fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl, felly y bydd cân y trahaus yn distewi. Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân. Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd a daenwyd dros yr holl bobloedd, llen galar sy'n cuddio pob cenedl; llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn. Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, “Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu; dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”
Eseia 25:4-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond rwyt ti’n dal yn lle diogel i’r rhai tlawd guddio, yn lle i’r anghenus gysgodi mewn argyfwng, yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm, neu fel gwres yr haul yn crasu’r tir, rwyt ti’n tewi twrw’r estroniaid. Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu’r gwres, ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi. Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i’r cenhedloedd i gyd: gwledd o winoedd aeddfed, bwyd blasus gyda’r gwin gorau. Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio’r llen sy’n gorchuddio wynebau’r bobloedd, a’r gorchudd sy’n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o’r tir. –mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Bryd hynny bydd y bobl yn dweud
Eseia 25:4-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy. Ac ARGLWYDD y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein DUW ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr ARGLWYDD; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef.