Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 16:1-23

Exodus 16:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai. Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch, a dweud wrthynt, “O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio. Ond ar y chweched dydd y maent i baratoi dwywaith cymaint ag y byddent yn ei gasglu ar ddiwrnod arall.” Yna dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid, “Yn yr hwyr cewch wybod mai'r ARGLWYDD a'ch arweiniodd allan o wlad yr Aifft, ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?” Dywedodd Moses hefyd, “Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.” Dywedodd Moses wrth Aaron, “Dywed wrth holl gynulliad pobl Israel, ‘Dewch yn agos at yr ARGLWYDD, oherwydd y mae ef wedi clywed eich grwgnach.’ ” A thra oedd Aaron yn siarad â hwy, a hwythau'n edrych tua'r anialwch, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD mewn cwmwl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi clywed grwgnach yr Israeliaid; dywed wrthynt, ‘Yn y cyfnos cewch fwyta cig, ac yn y bore cewch eich gwala o fara; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ” Yn yr hwyr daeth soflieir a gorchuddio'r gwersyll, ac yn y bore yr oedd haen o wlith o'i amgylch. Pan gododd y gwlith, yr oedd caenen denau ar hyd wyneb yr anialwch, mor denau â llwydrew ar y ddaear. Gwelodd yr Israeliaid ef, a dweud wrth ei gilydd, “Beth yw hwn?” Oherwydd nid oeddent yn gwybod beth ydoedd. Dywedodd Moses wrthynt, “Hwn yw'r bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta. Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Y mae pob un i gasglu ohono gymaint ag a all ei fwyta; cymerwch omer yr un ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.’ ” Gwnaeth yr Israeliaid hyn; yr oedd rhai'n casglu llawer, eraill ychydig, ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta. Dywedodd Moses wrthynt, “Peidied neb â chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth.” Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt. Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai. Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo. Dywedodd yntau wrthynt, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.’ Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore.”

Exodus 16:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna aeth pobl Israel ymlaen o Elim a chyrraedd Anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed diwrnod o’r ail fis ers iddyn nhw adael gwlad yr Aifft. Pan oedden nhw yn yr anialwch, dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto. “Byddai’n well petai’r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i’w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i’r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i’n mynd i wneud i fara ddisgyn o’r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i’r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i’n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i’n ddweud ai peidio. Ar chweched diwrnod pob wythnos maen nhw i gasglu dwywaith cymaint ag roedden nhw wedi’i gasglu bob diwrnod arall.” Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda’r nos heno, byddwch chi’n gwybod mai’r ARGLWYDD sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft. A bore yfory byddwch chi’n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi’ch clywed chi’n ymosod arno. Dŷn ni’n neb. Fe ydy’r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.” Ac meddai Moses, “Byddwch chi’n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda’r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae’r ARGLWYDD wedi’ch clywed chi’n ymosod arno. Dŷn ni’n neb. Yr ARGLWYDD ydy’r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!” Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw’r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dwed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi’ch clywed chi’n ymosod arno.’” Tra oedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw’n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio o’r golofn niwl. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dwed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i’w fwyta gyda’r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.’” Gyda’r nos, dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll. Pan oedd y gwlith wedi codi, roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio’r anialwch. Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw’n gofyn i’w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. Ac meddai Moses wrthyn nhw, “Dyma’r bara mae’r ARGLWYDD wedi’i roi i chi i’w fwyta. A dyma beth mae’r ARGLWYDD wedi’i orchymyn: ‘Mae pawb i gasglu’r hyn sydd ei angen ar eu teulu nhw – tua dau chwart y person. Dylech gasglu digon i bawb sy’n aros yn eich pabell.’” Felly dyma bobl Israel yn mynd allan i’w gasglu – rhai ohonyn nhw yn casglu mwy na’i gilydd. Ond wrth iddyn nhw fesur faint oedd pawb wedi’i gasglu, doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin. Roedd gan bawb faint oedd ei angen arnyn nhw. Yna dyma Moses yn dweud, “Peidiwch cadw dim ohono dros nos.” Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedd rhai wedi ceisio cadw peth ohono dros nos, ac erbyn y bore wedyn roedd cynrhon ynddo ac roedd yn drewi. Roedd Moses wedi gwylltio gyda nhw. Felly, roedd y bobl yn mynd allan bob bore, i gasglu faint roedden nhw ei angen. Ond wrth i’r haul gynhesu roedd yn toddi. Ar y chweched diwrnod, roedden nhw’n casglu dwywaith cymaint, sef pedwar chwart y person. A dyma arweinwyr y bobl yn mynd i ofyn pam i Moses. A dyma fe’n ateb, “Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD: ‘Rhaid i chi beidio gweithio yfory, mae’n Saboth wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD. Beth bynnag dych chi am ei bobi neu ei ferwi, gwnewch hynny heddiw. Wedyn cadw beth bynnag sydd dros ben at yfory.’”

Exodus 16:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft. A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr ARGLWYDD yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt. Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd. A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr ARGLWYDD a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft. Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr ARGLWYDD; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr ARGLWYDD: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn? Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr ARGLWYDD i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r ARGLWYDD eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr ARGLWYDD. A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr ARGLWYDD: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd yn y cwmwl. A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi. Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear. Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i’w fwyta. Hyn yw y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll. A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai. A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta. A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore. Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt. A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai. Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr ARGLWYDD; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r ARGLWYDD: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.