A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft. A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr ARGLWYDD yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt. Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd. A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr ARGLWYDD a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft. Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr ARGLWYDD; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr ARGLWYDD: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn? Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr ARGLWYDD i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r ARGLWYDD eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.
A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr ARGLWYDD: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd yn y cwmwl.
A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi. Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear. Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i’w fwyta.
Hyn yw y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll. A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai. A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta. A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore. Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt. A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr ARGLWYDD; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r ARGLWYDD: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.