Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 16

16
Y Manna a'r Soflieir
1Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai. 2Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch, 3a dweud wrthynt, “O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn.”
4Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio. 5Ond ar y chweched dydd y maent i baratoi dwywaith cymaint ag y byddent yn ei gasglu ar ddiwrnod arall.” 6Yna dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid, “Yn yr hwyr cewch wybod mai'r ARGLWYDD a'ch arweiniodd allan o wlad yr Aifft, 7ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?” 8Dywedodd Moses hefyd, “Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.”
9Dywedodd Moses wrth Aaron, “Dywed wrth holl gynulliad pobl Israel, ‘Dewch yn agos at yr ARGLWYDD, oherwydd y mae ef wedi clywed eich grwgnach.’ ” 10A thra oedd Aaron yn siarad â hwy, a hwythau'n edrych tua'r anialwch, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD mewn cwmwl. 11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 12“Yr wyf wedi clywed grwgnach yr Israeliaid; dywed wrthynt, ‘Yn y cyfnos cewch fwyta cig, ac yn y bore cewch eich gwala o fara; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”
13Yn yr hwyr daeth soflieir a gorchuddio'r gwersyll, ac yn y bore yr oedd haen o wlith o'i amgylch. 14Pan gododd y gwlith, yr oedd caenen denau ar hyd wyneb yr anialwch, mor denau â llwydrew ar y ddaear. 15Gwelodd yr Israeliaid ef, a dweud wrth ei gilydd, “Beth yw hwn?#16:15 Neu, Manna ydyw. Hebraeg, mân hu.” Oherwydd nid oeddent yn gwybod beth ydoedd. Dywedodd Moses wrthynt, “Hwn yw'r bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta. 16Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Y mae pob un i gasglu ohono gymaint ag a all ei fwyta; cymerwch omer yr un ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.’ ” 17Gwnaeth yr Israeliaid hyn; yr oedd rhai'n casglu llawer, eraill ychydig, 18ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta. 19Dywedodd Moses wrthynt, “Peidied neb â chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth.” 20Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt. 21Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.
22Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo. 23Dywedodd yntau wrthynt, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.’ Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore.” 24Fe'i cadwasant hyd y bore, fel yr oedd Moses wedi gorchymyn, ac ni ddrewodd na magu pryfed. 25Yna dywedodd Moses, “Bwytewch ef heddiw, oherwydd y mae'r dydd hwn yn Saboth i'r ARGLWYDD; ni chewch mohono yn y maes heddiw. 26Am chwe diwrnod y casglwch ef, ond ar y seithfed dydd, sef y Saboth, ni bydd dim ohono ar gael.” 27Aeth rhai o'r bobl allan ar y seithfed dydd i'w gasglu, ond ni chawsant ddim. 28Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Am ba hyd yr ydych am wrthod cadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau? 29Edrychwch, yr ARGLWYDD a roddodd y Saboth i chwi; am hynny, fe rydd i chwi ar y chweched dydd fara am ddau ddiwrnod. Arhoswch gartref, bawb ohonoch, a pheidied neb â symud oddi yno ar y seithfed dydd.” 30Felly gorffwysodd y bobl ar y seithfed dydd.
31Rhoddodd tŷ Israel yr enw manna arno; yr oedd fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrlladen wedi ei gwneud o fêl. 32Dywedodd Moses, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Llanwer omer ohono i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw, er mwyn iddynt weld y bara a rois i chwi i'w fwyta yn yr anialwch pan ddygais chwi allan o wlad yr Aifft.’ ” 33Dywedodd Moses wrth Aaron, “Cymer grochan, a rho ynddo omer lawn o'r manna, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw.” 34Gosododd Aaron ef o flaen y dystiolaeth i'w gadw, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 35Bu'r Israeliaid yn bwyta manna am ddeugain mlynedd, nes iddynt ddod i wlad gyfannedd ar gyrion gwlad Canaan. 36(Degfed ran o effa yw omer.)

Dewis Presennol:

Exodus 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd