Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 15

15
Cân Moses
1Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD:
“Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;
bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.
2Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,
ac ef yw'r un a'm hachubodd;
ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf,
Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
3Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr;
yr ARGLWYDD yw ei enw.
4Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,
a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.
5Daeth llifogydd i'w gorchuddio,
a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.
6Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus;
dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.
7Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr;
gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.
8Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd;
safodd y ffrydiau yn bentwr,
a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.
9Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;
rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;
tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’
10Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy,
nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.
11Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD?
Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd,
yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?
12Pan estynnaist dy ddeheulaw,
llyncodd y ddaear hwy.
13“Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist,
a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.
14Fe glyw y bobloedd, a dychryn,
a daw gwewyr ar drigolion Philistia.
15Bydd penaethiaid Edom yn brawychu,
ac arweinwyr Moab yn arswydo,
a holl drigolion Canaan yn toddi.
16Daw ofn a braw arnynt;
oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg,
nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio,
nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.
17Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti,
y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun,
y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.
18Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd.”
Cân Miriam
19Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r môr, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y môr ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych. 20Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio gyda thympanau. 21Canodd Miriam gân iddynt:
“Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;
bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.”
Iacháu'r Dŵr Chwerw
22Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y Môr Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael dŵr. 23Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara#15:23 H.y., Chwerw.. 24Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, “Beth ydym i'w yfed?” 25Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r dŵr, trodd y dŵr yn felys.
Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy, 26a dweud, “Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iacháu.”
27Yna daethant i Elim, lle'r oedd deuddeg ffynnon ddŵr, a deg a thrigain o balmwydd; a buont yn gwersyllu yno wrth y dŵr.

Dewis Presennol:

Exodus 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd