Deuteronomium 32:11-21
Deuteronomium 32:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel eryr yn cyffroi ei nyth ac yn hofran uwch ei gywion, lledai ei adenydd a'u cymryd ato, a'u cludo ar ei esgyll. Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain, heb un duw estron gydag ef. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear, a bwyta cnwd y maes; parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn, ac olew o'r graig gallestr. Cafodd ymenyn o'r fuches, llaeth y ddafad a braster ŵyn, hyrddod o frid Basan, a bychod, braster gronynnau gwenith hefyd, a gwin o sudd grawnwin i'w yfed. Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni; pesgodd Jesurun, a chiciodd; pesgodd, a thewychu'n wancus. Gwrthododd y Duw a'i creodd, a diystyru Craig ei iachawdwriaeth. Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr, a'i ddigio ag arferion ffiaidd. Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu. Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd, a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd. Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy, oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo. Dywedodd, “Cuddiaf fy wyneb rhagddynt, edrychaf beth fydd eu diwedd; oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt, plant heb ffyddlondeb ynddynt. Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw, a'm digio â'u heilunod; gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl, a'u digio â chenedl ynfyd.
Deuteronomium 32:11-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fel eryr yn gwthio’i gywion o’r nyth, yna’n hofran a’u dal ar ei adenydd, dyma’r ARGLWYDD yn codi ei bobl ar ei adenydd e. Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain, nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw. Gwnaeth iddyn nhw goncro’r wlad heb rwystr, a chawson nhw fwyta o gynnyrch y tir. Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o’r creigiau, olew olewydd o’r tir caregog, caws colfran o’r gwartheg, a llaeth o’r geifr, gyda braster ŵyn, hyrddod a geifr Bashan. Cefaist fwyta’r gwenith gorau ac yfed y gwin gorau. Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio – magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a’i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub; ei wneud yn eiddigeddus o’r duwiau paganaidd, a’i bryfocio gyda’u heilunod ffiaidd. Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw – duwiau doedden nhw’n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Anwybyddu’r Graig wnaeth dy genhedlu, ac anghofio’r Duw roddodd enedigaeth i ti. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a’u gwrthod, am fod ei feibion a’i ferched wedi’i wylltio. Meddai, “Dw i’n mynd i droi cefn arnyn nhw, a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Maen nhw’n genhedlaeth anonest, yn blant sydd mor anffyddlon. Maen nhw wedi fy ngwneud i’n eiddigeddus gyda’u duwiau ffals, a’m digio gyda’u delwau diwerth. Bydda i’n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw’n genedl, a’ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy’n deall dim.
Deuteronomium 32:11-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd; Felly yr ARGLWYDD yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr; Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist. A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth. A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd-dra y digiasant ef. Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau. Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r DUW a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof. Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched. Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt. Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd DDUW; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.