Fel eryr yn cyffroi ei nyth
ac yn hofran uwch ei gywion,
lledai ei adenydd a'u cymryd ato,
a'u cludo ar ei esgyll.
Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain,
heb un duw estron gydag ef.
Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear,
a bwyta cnwd y maes;
parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn,
ac olew o'r graig gallestr.
Cafodd ymenyn o'r fuches,
llaeth y ddafad a braster ŵyn,
hyrddod o frid Basan, a bychod,
braster gronynnau gwenith hefyd,
a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.
Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni;
pesgodd Jesurun, a chiciodd;
pesgodd, a thewychu'n wancus.
Gwrthododd y Duw a'i creodd,
a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.
Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr,
a'i ddigio ag arferion ffiaidd.
Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau,
ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod,
duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion,
nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd,
a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd.
Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy,
oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo.
Dywedodd, “Cuddiaf fy wyneb rhagddynt,
edrychaf beth fydd eu diwedd;
oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt,
plant heb ffyddlondeb ynddynt.
Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw,
a'm digio â'u heilunod;
gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl,
a'u digio â chenedl ynfyd.