Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd; Felly yr ARGLWYDD yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr; Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.
A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth. A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd-dra y digiasant ef. Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau. Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r DUW a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof. Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched. Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt. Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd DDUW; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.