1 Samuel 24:4-8
1 Samuel 24:4-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti’r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i’n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd yn mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel clogyn Saul i ffwrdd. Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel y clogyn. Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy’r brenin wedi’i eneinio gan yr ARGLWYDD.” A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o’r ogof ac ymlaen ar ei ffordd. Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â’i wyneb ar lawr.
1 Samuel 24:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai gwŷr Dafydd wrtho, “Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni.” Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul. Ond wedyn pigodd cydwybod Dafydd ef, am iddo dorri cwr mantell Saul, a dywedodd wrth ei ddynion, “Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.” Ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul. Pan ymadawodd Saul â'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei ôl a dweud, “F'arglwydd frenin!” A phan edrychodd Saul yn ôl, plygodd Dafydd â'i wyneb at y llawr ac ymgrymu.
1 Samuel 24:4-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.