Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 24

24
Dafydd yn arbed bywyd Saul
1Pan ddaeth Saul yn ôl ar ôl bod yn ymladd yn erbyn y Philistiaid dyma nhw’n dweud wrtho fod Dafydd yn anialwch En-gedi. 2Dewisodd Saul dair mil o filwyr gorau Israel, a mynd i Greigiau’r Geifr Gwyllt i chwilio am Dafydd. 3Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau’r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i’r tŷ bach, felly aeth i mewn i’r ogof. Roedd Dafydd a’i ddynion yn cuddio ym mhen draw’r ogof ar y pryd. 4A dyma’r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti’r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i’n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd yn mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel clogyn Saul i ffwrdd. 5Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel y clogyn. 6Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy’r brenin wedi’i eneinio gan yr ARGLWYDD.” 7A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o’r ogof ac ymlaen ar ei ffordd.
8Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â’i wyneb ar lawr. 9Wedyn dyma Dafydd yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti’n gwrando ar y straeon fy mod i eisiau gwneud niwed i ti? 10Ti wedi gweld drosot dy hun heddiw fod Duw wedi dy roi di yn fy ngafael i pan oeddet ti’n yr ogof. Roedd rhai yn annog fi i dy ladd di, ond wnes i ddim codi llaw yn erbyn fy meistr. Ti ydy’r un mae’r ARGLWYDD wedi’i eneinio’n frenin! 11Edrych, syr. Ie, edrych – dyma gornel dy glogyn di yn fy llaw i. Gwnes i dorri cornel dy glogyn, ond wnes i ddim dy ladd di. Dw i eisiau i ti ddeall nad ydw i’n gwrthryfela nac yn bwriadu dim drwg i ti. Dw i ddim wedi gwneud cam â thi er dy fod ti ar fy ôl i ac yn ceisio fy lladd i. 12Caiff yr ARGLWYDD farnu rhyngon ni’n dau. Caiff e ddial arnat ti, ond wna i ddim dy gyffwrdd. 13Fel mae’r hen ddihareb yn dweud, ‘O’r rhai drwg y daw drygioni.’ Wna i ddim drwg i ti. 14Ar ôl pwy mae brenin Israel wedi dod allan? Pwy wyt ti’n ceisio’i ddal? Dw i’n neb. Ci marw ydw i! Chwannen! 15Boed i’r ARGLWYDD farnu rhyngon ni’n dau. Bydd e’n ystyried yr achos ac yn dadlau o’m plaid i. Bydd e’n fy achub i o dy afael di!”
16Ar ôl i Dafydd ddweud hyn, dyma Saul yn ei ateb, “Ai ti sydd yna go iawn, Dafydd, machgen i?” A dyma fe’n dechrau crio’n uchel. 17Yna dyma fe’n dweud, “Ti’n well dyn na fi. Ti wedi bod yn dda ata i er fy mod i wedi ceisio gwneud drwg i ti. 18Ti wedi dangos hynny heddiw drwy fod yn garedig ata i. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi’r cyfle i ti fy lladd i, ond wnest ti ddim. 19Pan mae dyn yn dod o hyd i’w elyn, ydy e’n ei ollwng e’n rhydd? Boed i’r ARGLWYDD fod yn dda atat ti am beth wnest ti i mi heddiw. 20Gwranda, dw i’n gwybod yn iawn mai ti fydd yn frenin, a bydd teyrnas Israel yn llwyddo yn dy law di. 21Addo i mi, o flaen yr ARGLWYDD, na fyddi di’n lladd fy mhlant i gyd, gan adael neb i gario enw’r teulu yn ei flaen.”
22Ar ôl i Dafydd addo hynny ar lw i Saul, dyma Saul yn mynd adre, ac aeth Dafydd a’i ddynion yn ôl i fyny i’w guddfan.

Dewis Presennol:

1 Samuel 24: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda