A dyma’r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti’r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i’n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd yn mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel clogyn Saul i ffwrdd. Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel y clogyn. Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy’r brenin wedi’i eneinio gan yr ARGLWYDD.” A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o’r ogof ac ymlaen ar ei ffordd. Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â’i wyneb ar lawr.
Darllen 1 Samuel 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 24:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos