A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.
Darllen 1 Samuel 24
Gwranda ar 1 Samuel 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 24:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos