Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 16:1-13

1 Samuel 16:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef.” Gofynnodd Samuel, “Sut y medraf fi fynd? Os clyw Saul, fe'm lladd.” Dywedodd yr ARGLWYDD, “Dos â heffer gyda thi, a dweud dy fod wedi dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Rho wahoddiad i Jesse i'r aberth; dangosaf finnau iti beth i'w wneud, ac eneinia imi yr un a ddywedaf wrthyt.” Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, “Ai mewn heddwch y daethost?” atebodd yntau, “Ie, mewn heddwch. I aberthu i'r ARGLWYDD yr wyf fi yma; ymgysegrwch ac ymunwch â mi yn yr aberth.” Cysegrodd yntau Jesse a'i feibion, a'u gwahodd i'r aberth. Fel yr oeddent yn dod, sylwodd ar Eliab a meddyliodd, “Yn sicr dyma'i eneiniog, gerbron yr ARGLWYDD.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wêl meidrolyn y mae Duw'n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.” Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.” Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.” A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, “Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn.” Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.” Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw.” Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn ôl i Rama.

1 Samuel 16:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti’n mynd i ddal i deimlo’n drist am Saul? Dw i wedi’i wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o’r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o’i feibion e i fod yn frenin i mi.” Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e’n fy lladd i!” “Dos â heffer gyda ti,” meddai’r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i’n mynd i aberthu i’r ARGLWYDD.’ Gwahodd Jesse i’r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o’i feibion i’w eneinio â’r olew.” Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw’n gofyn iddo, “Wyt ti’n dod yn heddychlon?” “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i’n dod i aberthu i’r ARGLWYDD. Ewch drwy’r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i’r aberth.” Yna dyma fe’n arwain Jesse a’i feibion drwy’r ddefod o gysegru eu hunain, a’u gwahodd nhw i’r aberth. Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i’n siŵr mai hwnna ydy’r un mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis yn frenin.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi’i ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ag mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.” Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis chwaith.” Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis chwaith.” Daeth Jesse â saith o’i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy’r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o’r rhain.” Yna dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae’r lleiaf ar ôl. Mae e’n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i’w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.” Felly dyma Jesse’n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â’r olew.” Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o’r diwrnod hwnnw ymlaen. Yna dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama.

1 Samuel 16:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin. A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cymer anner-fuwch gyda thi, a dywed, Deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD. A galw Jesse i’r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr ARGLWYDD, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i’r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion, ac a’u galwodd hwynt i’r aberth. A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr ARGLWYDD ger ei fron ef. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych DUW fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr ARGLWYDD a edrych ar y galon. Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith. Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith. Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD y rhai hyn. Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma. Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe. Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.