Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 16

16
Eneinio Dafydd yn Frenin
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef.” 2Gofynnodd Samuel, “Sut y medraf fi fynd? Os clyw Saul, fe'm lladd.” Dywedodd yr ARGLWYDD, “Dos â heffer gyda thi, a dweud dy fod wedi dod i aberthu i'r ARGLWYDD. 3Rho wahoddiad i Jesse i'r aberth; dangosaf finnau iti beth i'w wneud, ac eneinia imi yr un a ddywedaf wrthyt.” 4Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, “Ai mewn heddwch y daethost?” 5atebodd yntau, “Ie, mewn heddwch. I aberthu i'r ARGLWYDD yr wyf fi yma; ymgysegrwch ac ymunwch â mi yn yr aberth.” 6Cysegrodd yntau Jesse a'i feibion, a'u gwahodd i'r aberth. Fel yr oeddent yn dod, sylwodd ar Eliab a meddyliodd, “Yn sicr dyma'i eneiniog, gerbron yr ARGLWYDD.” 7Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wêl meidrolyn y mae Duw'n ei weld#16:7 Felly Groeg. Hebraeg heb y mae Duw'n ei weld.. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.” 8Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.” 9Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.” 10A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, “Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn.” 11Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.” 12Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw.” 13Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn ôl i Rama.
Dafydd yn Llys Saul
14Ciliodd ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrth Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD aflonyddu arno. 15Dywedodd gweision Saul wrtho, “Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat. 16O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am ŵr sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well.” 17Dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf.” 18Atebodd un o'r gweision, “Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n ŵr dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef.” 19Anfonodd Saul negeswyr at Jesse a dweud, “Anfon ataf dy fab Dafydd sydd gyda'r defaid.” 20Cymerodd Jesse asyn gyda baich o fara, costrel o win, a myn gafr, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul. 21Aeth Saul yn hoff iawn o Ddafydd pan ddaeth i weini ato, a gwnaeth ef yn gludydd arfau iddo. 22Anfonodd Saul at Jesse a dweud, “Yr wyf am i Ddafydd gael aros yn fy ngwasanaeth, oherwydd yr wyf wrth fy modd gydag ef.” 23Pryd bynnag y byddai'r ysbryd drwg yn blino Saul, byddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu; rhoddai hynny esmwythâd i Saul a'i wella, fel bod yr ysbryd drwg yn cilio oddi wrtho.

Dewis Presennol:

1 Samuel 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda