Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 15

15
Rhyfel yn erbyn yr Amaleciaid
1Dywedodd Samuel wrth Saul, “Anfonwyd fi gan yr ARGLWYDD i'th eneinio'n frenin ar ei bobl Israel; felly gwrando'n awr ar eiriau'r ARGLWYDD. 2Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf am gosbi Amalec am yr hyn a wnaeth i Israel, sef eu rhwystro hwy ar y ffordd wrth iddynt ddod i fyny o'r Aifft.’ 3Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.”
4Felly galwodd Saul y fyddin allan a'u rhestru yn Telaim. Yr oedd dau gan mil o wŷr traed, a deng mil o ddynion Jwda. 5Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm, 6a dweud wrth y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft.” Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid; 7yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft. 8Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd â'r cleddyf. 9Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision#15:9 Felly Targwm. Hebraeg yn aneglur. a'r ŵyn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth.
Gwrthod Saul fel Brenin
10Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud, 11“Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn.” Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos. 12Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal. 13Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.” 14Gofynnodd Samuel, “Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r sŵn gwartheg yr wyf yn ei glywed?” 15Dywedodd Saul, “Y bobl sydd wedi dod â hwy oddi wrth yr Amaleciaid, oherwydd y maent wedi arbed y gorau o'r defaid a'r gwartheg er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Yr ydym wedi difa'r gweddill.” 16Dywedodd Samuel wrth Saul, “Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr.” Meddai yntau wrtho, “Dywed.” 17A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel? 18Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’ 19Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?” 20Dywedodd Saul wrth Samuel, “Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD, a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn ôl, a difrodi'r Amaleciaid. 21Fe gymerodd y bobl beth o'r ysbail, yn ddefaid a gwartheg, y pigion o'r diofryd, er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw yn Gilgal.” 22Yna dywedodd Samuel:
“A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth,
fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD?
Gwell gwrando nag aberth,
ac ufudd-dod na braster hyrddod.
23Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod,
a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd.
Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD,
gwrthododd ef di fel brenin.”
24Dywedodd Saul wrth Samuel, “Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais. 25Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD.” 26Ond dywedodd Samuel wrth Saul, “Na ddof; yr wyt wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dy wrthod di fel brenin ar Israel.” 27Trodd Samuel i fynd i ffwrdd, ond cydiodd Saul yng nghwr ei fantell, ac fe rwygodd. 28Ac meddai Samuel wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo brenhiniaeth Israel oddi wrthyt heddiw, ac am ei rhoi i un yn d'ymyl sy'n well na thi. 29Nid yw Ysblander Israel yn dweud celwydd nac yn edifarhau, oherwydd nid meidrolyn yw ef, i newid ei feddwl.” 30Dywedodd Saul eto, “Rwyf ar fai, ond dangos di barch tuag ataf gerbron henuriaid fy mhobl a'r Israeliaid, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.” 31Yna dychwelodd Samuel gyda Saul, ac ymostyngodd Saul gerbron yr ARGLWYDD. 32A dywedodd Samuel, “Dewch ag Agag brenin Amalec ataf fi.” Daeth Agag ato'n anfoddog, a dweud, “Fe giliodd chwerwder marwolaeth.” 33Ond dywedodd Samuel:
“Fel y gwnaeth dy gleddyf di wragedd yn ddi-blant,
felly bydd dy fam dithau'n ddi-blant ymysg gwragedd.”
Yna darniodd Samuel Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.
34Wedyn aeth Samuel i Rama, a Saul i'w gartref yn Gibea Saul. 35Ni welodd Samuel mo Saul byth wedyn, hyd ddydd ei farw, ond gofidiodd am Saul. Yr oedd yn edifar gan yr ARGLWYDD ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.

Dewis Presennol:

1 Samuel 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd