Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 14

14
1Un diwrnod, heb yngan gair wrth ei dad, dywedodd Jonathan fab Saul wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at wylwyr y Philistiaid sydd acw gyferbyn â ni.” 2Yr oedd Saul yn aros yng nghwr Gibea, dan y pren pomgranad sydd yn Migron, a thua chwe chant o bobl gydag ef; 3Ahia, mab Ahitub brawd Ichabod, fab Phinees, fab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn cario'r effod. Ni wyddai'r bobl fod Jonathan wedi mynd. 4Yn y bwlch lle'r oedd Jonathan yn ceisio croesi tuag at wylwyr y Philistiaid yr oedd clogwyn o graig ar y naill ochr a'r llall; Boses oedd enw'r naill a Senne oedd enw'r llall. 5Yr oedd un clogwyn yn taflu allan i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba. 6Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig.” 7Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, “Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon.” 8Dywedodd Jonathan, “Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt. 9Os dywedant wrthym, ‘Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch’, fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt. 10Ond os dywedant, ‘Dewch i fyny atom’, yna awn i fyny, oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi yn ein llaw; a bydd hyn yn arwydd inni.”
11Dangosodd y ddau ohonynt eu hunain i wylwyr y Philistiaid, a dywedodd y Philistiaid, “Dyma Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle buont yn cuddio.” 12A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, “Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi.” Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, “Tyrd i fyny ar f'ôl i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel.” 13Dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a'i draed, gyda'i gludydd arfau ar ei ôl. Cwympodd y gwylwyr o flaen Jonathan, a daeth ei gludydd arfau ar ei ôl i'w dienyddio. 14Y tro cyntaf hwn, lladdodd Jonathan a'i gludydd arfau tuag ugain o ddynion o fewn tua hanner cwys cae. 15Cododd braw drwy'r gwersyll a'r maes, a brawychwyd holl bobl yr wyliadwriaeth, a'r rheibwyr hefyd, nes bod y wlad yn crynu gan arswyd.
Trechu'r Philistiaid
16Yna gwelodd ysbiwyr Saul oedd yn Gibea Benjamin fod y gwersyll yn rhuthro yma ac acw mewn anhrefn#14:16 Felly Groeg. Hebraeg yn aneglur.. 17Dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, “Galwch y rhestr i weld pwy sydd wedi mynd o'n plith.” 18Galwyd y rhestr, a chael nad oedd Jonathan na'i gludydd arfau yno. Yna dywedodd Saul wrth Ahia, “Tyrd â'r effod.” Oherwydd yr adeg honno ef oedd yn cludo'r effod o flaen Israel#14:18 Felly Groeg. Hebraeg, “Tyrd ag arch Duw.” Oherwydd yr oedd arch Duw yn y dydd hwnnw a meibion Israel.. 19Tra oedd Saul yn siarad â'r offeiriad, cynyddodd yr anhrefn fwyfwy yng ngwersyll y Philistiaid, a dywedodd Saul wrth yr offeiriad, “Atal dy law.” 20Galwodd Saul yr holl bobl oedd gydag ef, ac aethant i'r frwydr; yno yr oedd pob un â'i gleddyf yn erbyn ei gyfaill, mewn anhrefn llwyr. 21A dyma'r Hebreaid oedd gynt ar ochr y Philistiaid, ac wedi dod i fyny i'r gwersyll gyda hwy, yn troi ac yn ochri gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. 22A phan glywodd yr Israeliaid oedd yn llechu yn ucheldir Effraim fod y Philistiaid ar ffo, dyna hwythau hefyd yn ymuno i'w hymlid. 23Y dydd hwnnw gwaredodd yr ARGLWYDD Israel, ac ymledodd y frwydr tu hwnt i Beth-afen.
Digwyddiadau yn Dilyn y Frwydr
24Ond aeth yn gyfyng ar yr Israeliaid y diwrnod hwnnw, oherwydd i Saul dynghedu'r bobl a dweud, “Melltigedig fyddo'r un sy'n bwyta tamaid cyn yr hwyr! Yr wyf am ddial ar fy ngelynion.” Ac ni phrofodd yr un o'r bobl damaid. 25Daethant oll i goedwig lle'r oedd mêl gwyllt; 26a phan ddaethant yno a gweld llif o fêl, nid estynnodd neb ei law at ei geg, am fod y bobl yn ofni'r llw. 27Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau mêl, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid. 28Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, “Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, ‘Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw’. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig.” 29Atebodd Jonathan, “Y mae fy nhad wedi gwneud drwg i'r wlad; edrychwch fel y gloywodd fy llygaid pan brofais fymryn o'r mêl hwn. 30Yn wir, pe bai'r bobl wedi cael rhyddid i fwyta heddiw o ysbail eu gelynion, oni fyddai'r lladdfa ymysg y Philistiaid yn drymach?”
31Y diwrnod hwnnw trawyd y Philistiaid bob cam o Michmas i Ajalon, er bod y bobl wedi blino'n llwyr. 32Yna rhuthrodd y bobl ar yr ysbail a chymryd defaid ac ychen a lloi, a'u lladd ar y ddaear, a'u bwyta heb eu gwaedu. 33Pan ddywedwyd wrth Saul, “Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu”, dywedodd yntau, “Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith.” 34Yna dywedodd Saul, “Ewch ar frys trwy ganol y bobl a dywedwch wrthynt, ‘Doed pob un â'i ych neu ei ddafad ataf fi, a'u lladd yma a'u bwyta, rhag i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta cig heb ei waedu’.” Daeth pob un o'r bobl â'i ych gydag ef y noson honno, i'w ladd yno. 35Felly y cododd Saul allor i'r ARGLWYDD, a honno oedd yr allor gyntaf iddo'i chodi i'r ARGLWYDD.
36Yna dywedodd Saul, “Awn i lawr ar ôl y Philistiaid liw nos a'u hysbeilio hyd y bore, heb adael yr un ohonynt ar ôl.” Dywedodd y bobl, “Gwna beth bynnag a fynni.” Ond dywedodd yr offeiriad, “Gadewch inni agosáu yma at Dduw.” 37Gofynnodd Saul i Dduw, “Os af i lawr ar ôl y Philistiaid, a roi di hwy yn llaw Israel?” Ond ni chafodd ateb y diwrnod hwnnw. 38Yna dywedodd Saul, “Dewch yma, holl bennau-teuluoedd y bobl, a chwiliwch i gael gweld ymhle mae'r pechod hwn heddiw. 39Oherwydd, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un a waredodd Israel, hyd yn oed pe byddai yn fy mab Jonathan, byddai raid iddo farw.” Ond ni ddywedodd yr un o'r bobl wrtho. 40Yna dywedodd wrth yr holl Israeliaid, “Safwch chwi ar un ochr, a minnau a'm mab Jonathan ar yr ochr arall.” A dywedodd y bobl wrth Saul, “Gwna fel y gweli'n dda.” 41Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, “Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynof fi neu yn fy mab Jonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobl Israel#14:41 Felly Groeg. Hebraeg heb Pam… dy bobl Israel., rho Twmim.” Daliwyd Jonathan a Saul, ac aeth Israel yn rhydd. 42Dywedodd Saul, “Bwriwch goelbren rhyngof fi a'm mab Jonathan.” A daliwyd Jonathan. 43Yna dywedodd Saul wrth Jonathan, “Dywed wrthyf beth a wnaethost.” Eglurodd Jonathan iddo, a dweud, “Dim ond profi mymryn o fêl ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi, rwy'n barod i farw.” 44Atebodd Saul, “Fel hyn y gwna Duw i mi, a rhagor, os na fydd Jonathan farw.” 45Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, “A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn.” Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw. 46Dychwelodd Saul o ymlid y Philistiaid, ac aeth y Philistiaid adref.
Gyrfa Saul, ac Aelodau ei Deulu
47Wedi i Saul ennill y frenhiniaeth ar Israel, ymladdodd â'i holl elynion oddi amgylch—Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba a'r Philistiaid—a'u darostwng ble bynnag yr âi. 48Gweithredodd yn ddewr, trawodd yr Amaleciaid, a rhyddhaodd Israel o law eu gormeswyr.
49Jonathan, Isfi a Malcisua oedd meibion Saul. Enw'r hynaf o'i ddwy ferch oedd Merab, ac enw'r ieuengaf Michal. 50Ahinoam ferch Ahimaas oedd gwraig Saul, ac Abner fab Ner, ewythr Saul, oedd pennaeth ei lu. 51Yr oedd Cis tad Saul a Ner tad Abner yn feibion i Abiel. 52Bu rhyfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul; ac os gwelai Saul ŵr cryf a dewr, fe'i cymerai ato.

Dewis Presennol:

1 Samuel 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda