Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 13

13
Rhyfel yn erbyn y Philistiaid
1Yr oedd Saul yn ddeg ar hugain oed#13:1 Rhai llawysgrifau Groeg. Hebraeg heb rif. pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin ar Israel am ddeugain mlynedd#13:1 Hebraeg, dwy. Cymh. Actau 13:21.. 2Dewisodd Saul dair mil o Israeliaid; yr oedd dwy fil gydag ef yn Michmas ac ucheldir Bethel, a mil gyda Jonathan yn Gibea Benjamin; anfonodd weddill y bobl adref. 3Lladdodd Jonathan lywodraethwr y Philistiaid oedd yn Geba, a chlywodd y Philistiaid fod Saul wedi galw'r holl wlad i ryfel a bod yr Hebreaid mewn gwrthryfel. 4Pan glywodd Israel gyfan y si fod Saul wedi lladd llywodraethwr y Philistiaid, a bod Israel yn ddrewdod yn ffroenau'r Philistiaid, ymgasglodd y bobl at Saul i Gilgal. 5Yr oedd gan y Philistiaid a ddaeth i ryfela yn erbyn Israel ddeng mil ar hugain o gerbydau, chwe mil o farchogion, a byddin mor niferus â'r tywod ar lan y môr; ac aethant i wersyllu yn Michmas y tu dwyrain i Beth-afen. 6Pan welodd yr Israeliaid ei bod yn gyfyng arnynt a bod y fyddin wedi ei llethu, aethant i guddio mewn ogofeydd ac agennau, ac yn y creigiau a'r cilfachau a'r tyllau. 7Aeth rhai dros yr Iorddonen i dir Gad a Gilead, ond arhosodd Saul yn Gilgal, er bod yr holl bobl oedd yn ei ddilyn mewn braw. 8Arhosodd am saith diwrnod yn ôl y trefniant gyda Samuel, ond ni ddaeth Samuel i Gilgal, a dechreuodd y bobl adael Saul. 9Dywedodd yntau, “Dygwch ataf y poethoffrwm a'r heddoffrymau.” Ac offrymodd y poethoffrwm. 10Fel yr oedd yn gorffen offrymu'r poethoffrwm, dyna Samuel yn cyrraedd, ac aeth Saul allan i'w gyfarfod a'i gyfarch. 11Gofynnodd Samuel, “Beth wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul, “Gwelais fod y bobl yn fy ngadael, a'th fod dithau rai dyddiau heb ddod yn ôl y trefniant, a bod y Philistiaid wedi ymgynnull yn Michmas, 12a dywedais, ‘Yn awr fe ddaw'r Philistiaid i lawr arnaf i Gilgal, a minnau heb geisio ffafr yr ARGLWYDD.’ Felly bu raid imi offrymu'r poethoffrwm.” 13Dywedodd Samuel wrth Saul, “Buost yn ffôl; pe byddit wedi cadw'r gorchymyn a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti, yn sicr byddai'r ARGLWYDD yn cadarnhau dy frenhiniaeth di ar Israel am byth. 14Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gŵr yn ôl ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti.” 15Cododd Samuel a mynd o Gilgal i'w ffordd ei hun, ond aeth gweddill y bobl i fyny ar ôl Saul i gyfarfod y rhyfelwyr, a dod o Gilgal#13:15 Felly Groeg. Hebraeg heb i'w ffordd… o Gilgal. i Gibea Benjamin. 16Rhestrodd Saul y bobl oedd gydag ef, ryw chwe chant o wŷr. Yr oedd Saul a'i fab Jonathan a'r gwŷr oedd gyda hwy yn aros yn Gibea Benjamin, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Michmas. 17Yr oedd tri chwmni yn mynd allan o wersyll y Philistiaid i reibio; un yn troi i gyfeiriad Offra yn ardal Sual, 18un arall i gyfeiriad Beth-horon, a'r trydydd i gyfeiriad y terfyn uwchben dyffryn Seboim tua'r diffeithwch.
19Nid oedd gof i'w gael drwy holl wlad Israel, am fod y Philistiaid wedi dweud, “Rhag i'r Hebreaid wneud cleddyf neu waywffon.” 20Byddai pob Israeliad yn mynd at y Philistiaid i hogi ei swch a'i gaib a'i fwyell a'i gryman#13:20 Felly Groeg. Hebraeg, a'i swch.; 21a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl#13:21 Tebygol. Hebraeg yn ansicr.. 22Felly, yn nydd rhyfel, nid oedd gan neb o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan gleddyf na gwaywffon, ond yr oedd rhai gan Saul a'i fab Jonathan.
Gorchest Jonathan
23Gosododd y Philistiaid wylwyr i warchod bwlch Michmas.

Dewis Presennol:

1 Samuel 13: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd