Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 16

16
Yr ARGLWYDD yn dewis Dafydd yn frenin
1Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti’n mynd i ddal i deimlo’n drist am Saul? Dw i wedi’i wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o’r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o’i feibion e i fod yn frenin i mi.” 2Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e’n fy lladd i!” “Dos â heffer gyda ti,” meddai’r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i’n mynd i aberthu i’r ARGLWYDD.’ 3Gwahodd Jesse i’r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o’i feibion i’w eneinio â’r olew.”
4Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw’n gofyn iddo, “Wyt ti’n dod yn heddychlon?” 5“Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i’n dod i aberthu i’r ARGLWYDD. Ewch drwy’r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i’r aberth.” Yna dyma fe’n arwain Jesse a’i feibion drwy’r ddefod o gysegru eu hunain, a’u gwahodd nhw i’r aberth.
6Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i’n siŵr mai hwnna ydy’r un mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis yn frenin.” 7Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi’i ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ag mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.” 8Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis chwaith.” 9Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis chwaith.” 10Daeth Jesse â saith o’i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy’r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o’r rhain.”
11Yna dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae’r lleiaf ar ôl. Mae e’n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i’w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.” 12Felly dyma Jesse’n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â’r olew.”#Salm 78:70-71 13Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o’r diwrnod hwnnw ymlaen.
Yna dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama.
Dafydd yn canu’r delyn i Saul
14Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma’r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i’w boeni. 15Roedd ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae’n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di. 16Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy’n canu’r delyn#16:16 telyn Nid telyn fel y gwyddom ni amdani oedd yr offeryn yma, ond telyn fach hirsgwar oedd yn cael ei dal gan y llaw chwith yn erbyn y frest. yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e’n canu’r delyn ac yn gwneud i ti deimlo’n well.” 17Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy’n canu’r delyn yn dda, a dewch ag e yma.” 18A dyma un o’r dynion ifanc yn dweud, “Dw i’n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy’n dda ar y delyn. Mae e’n filwr dewr, yn siaradwr da, mae’n fachgen golygus ac mae’r ARGLWYDD gydag e.” 19Felly dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda’r defaid.” 20A dyma Jesse’n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a’u hanfon gyda’i fab Dafydd at Saul. 21Aeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi’n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario’i arfau iddo. 22Anfonodd Saul neges at Jesse yn gofyn, “Plîs gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i’n hapus iawn gydag e.”
23Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a’i chanu. Byddai hynny’n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo’n well; a byddai’r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo.

Dewis Presennol:

1 Samuel 16: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda