A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin. A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cymer anner-fuwch gyda thi, a dywed, Deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD. A galw Jesse i’r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr ARGLWYDD, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i’r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion, ac a’u galwodd hwynt i’r aberth.
A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr ARGLWYDD ger ei fron ef. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych DUW fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr ARGLWYDD a edrych ar y galon. Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith. Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith. Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD y rhai hyn. Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma. Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe. Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.