1 Brenhinoedd 18:36-45
1 Brenhinoedd 18:36-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth hi’n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i’n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i’r bobl yma wybod mai ti ydy’r Duw go iawn, a dy fod ti’n eu troi nhw’n ôl atat ti.” Yna’n sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi’r offrwm, y coed, y cerrig a’r pridd, a hyd yn oed sychu’r dŵr oedd yn y ffos. Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw’n syrthio ar eu gliniau a’u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn!” Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i’r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at afon Cison a’u lladd nhw i gyd yno. Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.” Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â’i wyneb ar lawr rhwng ei liniau. A dyma fe’n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma’r gwas yn mynd i edrych, a dweud, “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”. Yna’r seithfed tro dyma’r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o’r môr.” A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’” Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel.
1 Brenhinoedd 18:36-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.” Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos. Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!” Yna dywedodd Elias wrthynt, “Daliwch broffwydi Baal; peidiwch â gadael i'r un ohonynt ddianc.” Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias â hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno. Dywedodd Elias wrth Ahab, “Dos yn ôl, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae sŵn glaw.” Felly aeth Ahab yn ei ôl i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau. Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua'r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, “Nid oes dim i'w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.” A'r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.’ ” Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel.
1 Brenhinoedd 18:36-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan offrymid yr hwyr-offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. Yna tân yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW. Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno. Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law. Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith. A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel.