Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.” Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos. Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!” Yna dywedodd Elias wrthynt, “Daliwch broffwydi Baal; peidiwch â gadael i'r un ohonynt ddianc.” Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias â hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.
Dywedodd Elias wrth Ahab, “Dos yn ôl, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae sŵn glaw.” Felly aeth Ahab yn ei ôl i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau. Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua'r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, “Nid oes dim i'w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.” A'r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.’ ” Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel.