Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18

18
Elias a Phroffwydi Baal
1Aeth cryn amser heibio, ac yn y drydedd flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD at Elias gan ddweud, “Dos, dangos dy hun i Ahab er mwyn imi roi glaw ar wyneb y tir.” 2Aeth Elias i'w ddangos ei hun i Ahab. 3Gan fod y newyn yn drwm yn Samaria, galwodd Ahab ar Obadeia, goruchwyliwr ei dŷ. 4Yr oedd Obadeia yn ofni'r ARGLWYDD yn fawr, a phan ddistrywiodd Jesebel broffwydi'r ARGLWYDD, fe gymerodd Obadeia gant o broffwydi a'u cuddio mewn ogof fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod. 5A dywedodd Ahab wrth Obadeia, “Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail.” 6Ac wedi rhannu'r wlad rhyngddynt i gerdded drwyddi, aeth Ahab ei hun un ffordd, ac Obadeia ffordd arall. 7A phan oedd Obadeia ar ei ffordd, daeth Elias i'w gyfarfod; adnabu yntau ef, a syrthio ar ei wyneb a dweud, “Ai ti sydd yna, f'arglwydd Elias?” 8“Ie,” atebodd yntau, “dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael.” 9Ond meddai hwnnw, “Beth yw fy mai, dy fod yn rhoi dy was yn llaw Ahab i'm lladd? 10Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, ‘Nid yw yma’, byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld. 11A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael’! 12Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd—ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen. 13Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod? 14A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth f'arglwydd fod Elias ar gael’! Y mae'n sicr o'm lladd.” 15Dywedodd Elias, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, yr wyf am ymddangos iddo heddiw.”
16Yna aeth Obadeia i gyfarfod Ahab a dweud wrtho; ac aeth Ahab i gyfarfod Elias. 17Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, “Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?” 18Atebodd yntau, “Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim. 19Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal.” 20Anfonodd Ahab at yr holl Israeliaid, a chasglu'r proffwydi i Fynydd Carmel.
21Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo. 22Yna meddai Elias wrth y bobl, “Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner. 23Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano. 24Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw.” 25Atebodd yr holl bobl, “Cynllun da!” Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, “Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio â rhoi tân.” 26Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, “Baal, ateb ni!” Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor. 27Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.” 28Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt. 29Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
30Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio; 31a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”). 32Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had. 33Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed, 34ac yna meddai, “Llanwch bedwar llestr â dŵr, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed.” Yna dywedodd, “Gwnewch eilwaith”; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, “Gwnewch y drydedd waith”; a gwnaethant y trydydd tro, 35nes bod y dŵr yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos. 36Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. 37Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.” 38Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos. 39Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!” 40Yna dywedodd Elias wrthynt, “Daliwch broffwydi Baal; peidiwch â gadael i'r un ohonynt ddianc.” Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias â hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.
Diwedd y Sychder
41Dywedodd Elias wrth Ahab, “Dos yn ôl, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae sŵn glaw.” 42Felly aeth Ahab yn ei ôl i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau. 43Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua'r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, “Nid oes dim i'w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.” 44A'r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.’ ” 45Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel. 46Daeth llaw yr ARGLWYDD ar Elias, tynhaodd yntau rwymyn am ei lwynau, a rhedodd o flaen Ahab hyd at y fynedfa i Jesreel.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda