Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18

18
1Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear. 2Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. 3Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr: 4Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.) 5Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. 6Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.
7Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? 8Yntau a ddywedodd wrtho, Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 9Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? 10Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. 11Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 12A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr Arglwydd a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o’m mebyd. 13Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr? 14Ac yn awr ti a ddywedi, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. 15A dywedodd Eleias, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. 16Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. 17A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? 18Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ôl Baalim. 19Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel. 20Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel. 21Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. 22Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. 23Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano. 24A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a’r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth. 25Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano. 26A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. 27A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. 28A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt. 29Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr-offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. 30A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid. 31Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. 32Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. 33Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; 34Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. 35A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. 36A phan offrymid yr hwyr-offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. 37Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. 38Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. 39A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr Arglwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw. 40Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno.
41Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law. 42Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; 43Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith. 44A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. 45Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. 46A llaw yr Arglwydd oedd ar Eleias; ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 18: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd