1
1 Brenhinoedd 18:37
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn.
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:37
2
1 Brenhinoedd 18:36
A phan offrymid yr hwyr-offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:36
3
1 Brenhinoedd 18:21
Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:21
4
1 Brenhinoedd 18:38
Yna tân yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:38
5
1 Brenhinoedd 18:39
A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:39
6
1 Brenhinoedd 18:44
A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:44
7
1 Brenhinoedd 18:46
A llaw yr ARGLWYDD oedd ar Eleias; ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:46
8
1 Brenhinoedd 18:41
Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:41
9
1 Brenhinoedd 18:43
Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:43
10
1 Brenhinoedd 18:30
A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:30
11
1 Brenhinoedd 18:24
A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a’r DUW a atebo trwy dân, bydded efe DDUW. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:24
12
1 Brenhinoedd 18:31
Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:31
13
1 Brenhinoedd 18:27
A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:27
14
1 Brenhinoedd 18:32
Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:32
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos