Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18:22-39

1 Brenhinoedd 18:22-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna meddai Elias wrth y bobl, “Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner. Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano. Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw.” Atebodd yr holl bobl, “Cynllun da!” Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, “Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio â rhoi tân.” Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, “Baal, ateb ni!” Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor. Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.” Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt. Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael. Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio; a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”). Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had. Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed, ac yna meddai, “Llanwch bedwar llestr â dŵr, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed.” Yna dywedodd, “Gwnewch eilwaith”; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, “Gwnewch y drydedd waith”; a gwnaethant y trydydd tro, nes bod y dŵr yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos. Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.” Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos. Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!”

1 Brenhinoedd 18:22-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy’r unig un sydd ar ôl o broffwydi’r ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma. Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri’n ddarnau, a’i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda’r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano. Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Y duw sy’n anfon tân fydd yn dangos mai fe ydy’r Duw go iawn.” A dyma’r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!” Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a’i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.” Felly dyma nhw’n cymryd y tarw roedden nhw wedi’i gael, ei baratoi a’i osod ar yr allor. A dyma nhw’n galw ar Baal drwy’r bore, nes oedd hi’n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw’n dawnsio’n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi’i chodi. Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi’n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e’n myfyrio, neu wedi mynd i’r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e’n cysgu, a bod angen ei ddeffro!” A dyma nhw’n gweiddi’n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd. Buon nhw wrthi’n proffwydo’n wallgof drwy’r p’nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw. Yna dyma Elias yn galw’r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o’i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio. Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi’r enw Israel iddo). A dyma fe’n defnyddio’r cerrig i godi allor i’r ARGLWYDD. Yna dyma fe’n cloddio ffos eithaf dwfn o gwmpas yr allor. Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri’r tarw yn ddarnau a’i roi ar y coed. Yna dyma fe’n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr â dŵr, a’i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma Elias yn dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” a dyma wnaethon nhw. “Ac eto,” meddai, a dyma nhw’n gwneud y drydedd waith. Roedd yr allor yn socian, a’r dŵr wedi llenwi’r ffos o’i chwmpas. Pan ddaeth hi’n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i’n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i’r bobl yma wybod mai ti ydy’r Duw go iawn, a dy fod ti’n eu troi nhw’n ôl atat ti.” Yna’n sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi’r offrwm, y coed, y cerrig a’r pridd, a hyd yn oed sychu’r dŵr oedd yn y ffos. Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw’n syrthio ar eu gliniau a’u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn!”

1 Brenhinoedd 18:22-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano. A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a’r DUW a atebo trwy dân, bydded efe DDUW. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth. Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano. A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt. Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr-offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid. Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. A phan offrymid yr hwyr-offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. Yna tân yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW.