Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 18:22-39

1 Brenhinoedd 18:22-39 BNET

Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy’r unig un sydd ar ôl o broffwydi’r ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma. Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri’n ddarnau, a’i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda’r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano. Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Y duw sy’n anfon tân fydd yn dangos mai fe ydy’r Duw go iawn.” A dyma’r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!” Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a’i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.” Felly dyma nhw’n cymryd y tarw roedden nhw wedi’i gael, ei baratoi a’i osod ar yr allor. A dyma nhw’n galw ar Baal drwy’r bore, nes oedd hi’n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw’n dawnsio’n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi’i chodi. Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi’n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e’n myfyrio, neu wedi mynd i’r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e’n cysgu, a bod angen ei ddeffro!” A dyma nhw’n gweiddi’n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd. Buon nhw wrthi’n proffwydo’n wallgof drwy’r p’nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw. Yna dyma Elias yn galw’r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o’i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio. Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi’r enw Israel iddo). A dyma fe’n defnyddio’r cerrig i godi allor i’r ARGLWYDD. Yna dyma fe’n cloddio ffos eithaf dwfn o gwmpas yr allor. Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri’r tarw yn ddarnau a’i roi ar y coed. Yna dyma fe’n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr â dŵr, a’i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma Elias yn dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” a dyma wnaethon nhw. “Ac eto,” meddai, a dyma nhw’n gwneud y drydedd waith. Roedd yr allor yn socian, a’r dŵr wedi llenwi’r ffos o’i chwmpas. Pan ddaeth hi’n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i’n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i’r bobl yma wybod mai ti ydy’r Duw go iawn, a dy fod ti’n eu troi nhw’n ôl atat ti.” Yna’n sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi’r offrwm, y coed, y cerrig a’r pridd, a hyd yn oed sychu’r dŵr oedd yn y ffos. Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw’n syrthio ar eu gliniau a’u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn!”