Psalmau 70
70
Y Psalm. LXX. Y Gyhydedd Wèn Drosgl, neu Gyhydedd Hir.
1I’m gwared rhêd rhwydh,
Duw eurglod, Arglwydh;
Cymmorth fi, arwydh gwiwrwydh, gorau.
2Cywilydh rhydh rhaid,
Ceir gostwng blwng blaid
A gais fy enaid, gwas wyf finnau:
Coeliwch fi, kiliant
O ludh, c’wilydhiant;
I’m drwg hwy chwardhant, oerblant arwblau.
3Gw ’radwydh, swydh syn,
Gwir fyd gwr a fyn
Watwar tyn, er hyn, gelyn golau.
4Llawen gwên pob gwr
A’th gais, ais oeswr,
Ynot ei gyflwr, Rhadwr rheidiau:
Y gwr a garo
I iechyd ucho,
Molwch Dduw yno, medhai fo ’n fau.
5Wyf druan wan was;
Duw, gwared, — guras;
Dyro help rhag cas galanas glau.
Dy gymmorth, porth pêr,
Duw Naf, ydwyd, Nêr;
Duw tyner, noder; na wna oedau.
Dewis Presennol:
Psalmau 70: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.