Psalmau 71
71
Y Psalm. LXXI. Cywydd Deuair Hirion.
1Attat rhedaf, Naf, yn wir;
I gywilydh ni’m gwelir.
2Gwared, Naf, gorau wyd, Nêr;
Gwiw fendith dy gyfiawnder:
Gwrando ’ngwaedh, gwrando ’ngwedhi,
O iechyd fyth, a chadw fi.
3Adhewaist, wyd yn dhiwael,
Imi nerth hwnt, mae ’n wyrth hael:
Etto y Tad do’f attat ti,
Graig gadarn, gorau cedwi:
Duw, gwared, rhag dig araith
Dichellion dynion oer daith.
4Arnat, caf gywirnod cais,
O drachwant, yr edrychais,
5(Mawr boen) pan dhaethym ir byd,
A mau obaith i’m mebyd.
6Di o ’r groth, diorwag ran,
A’m megaist, nid mwy ogan;
Ag yn ol, o eigion ais
Wiw lawnedh, i’th foliennais.
7Ydwyf derfysg yn mysg mil,
Anghu anfad anghenfil:
Dydi, er hyn, Dad y rhaid,
Dduw orig yw f’ymdhiriaid.
8Genau mau a’th ogoniant,
A mawl y llenwir fy mant.
9Na’m gwrthod, breisgnod Iôr braint,
Nag i’m mhoen, nac i’m henaint;
O diffyg nerth, drafferth draw,
Hybarch, na fwrw fi heibiaw.
10Fy ngelynion gwychion gant,
Sur ydoedh, a siaradant;
Gwael yw ’r iaith i’m gwilwyr i,
O hirwg ymgynghori:
11A Duw fyth, medhant, o’i fodh,
Gwarth wedi, a’i gwrthododh;
Deliwch a cheblwch a chêd,
O gur nid oes a’i gwared.
12Na fydh yn hir, fodhion hyf,
O Dduw wyrthiawg, odhiwrthyf:
O Duw, brysia, gwycha’ gwedh,
I’m cymmorth, rhag dim camwedh.
13Derfydh, cywilydh eu caid,
Gelynion sy i’m gwael enaid;
Mwyfwy, os pair im’ ofid,
I warth, aflwydh, gw ’radwydh, gwrid.
14It’, bob amser, Nêr a’m Naf,
Im’ oedh raid, ymdhiriedaf;
A chanaf yn wych hynod,
Fal iaith glaer dy fawl a’th glod.
15A’m genau mi a ganaf
Dy gyfiawnder, Nêr, a’m Naf;
Ni wn eu rhif a phrif ffraeth,
Wyd Iôr, dy iechydwriaeth.
16Rhodia ’n war, o rhoi di nerth,
Duw parodfawl, da prydferth;
Cofio a wnaf kyfiawn Nêr,
Cofio undod kyfiawnder.
17Er yn fachgen fy ngeni,
Dwys gost fyth, dysgaist fi;
Traethais a welais heb au,
Wedi, dy ryfedhodau.
18Duw uchod, na’m gwrthoder
Yn benwyn iawn, bawn yn bêr;
Nes im’ draethu, medhu mawl,
Dy dhawn wyrth, didhan nerthawl.
19Dy gyfiawnder, kofier, caf,
A’i draethu hyd yr eithaf;
Gweithiaist fawredh, freisgedh frig,
Wyd obaith, Pwy sy debyg?
20Danghosaist, mynnaist i mi,
A gwael adwyth, galedi.
Di a ’n tynni, codi, Car,
Dawn Dduw, odhidan dhaear;
21Ag amlhai, nid gwammal hedh,
Imi orig, fy mawredh.
Ag eilwaith, fy ngwir galon,
Y cysuri fi, fy Iôn.
22Yn ol canaf dy foliant,
A’th wawd, a thafawd a thant;
Dy wiredh hwnt iraidh hael,
Dewisrodh, Unduw Israel.
23O canaf it’ accen faith,
Llyna wefus llawn afiaith;
A’m henaid, a dhywaid dhawn,
A brynaist yn bêr uniawn.
24Beunydh traethaf a’m tafawd
Dy gyfiawnder, Gwiwner, gwawd.
Cyw’lydh gwarth, cledh a gant,
Yn rhuthr, sawl a’m hanrheithiant.
Dewis Presennol:
Psalmau 71: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.