Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 36

36
Y Psalm. XXXVI. Englyn Unodl Union.
1Ffladredh anwiredh wrth enwirion, — dadl,
D’wedai o fodh ei galon,
Nid oes ofn un Duw, na’i son,
I’w lygaid na’i olygon.
2I’w lygaid tanbaid, nôd tau, — ffol edrych,
Mae ei ffladredh yntau;
Anwiredh, oeredh eiriau,
A’i gas a haedh ei gashau.
3Anwiredh, dalledh o dwyllair, — geiriau
I enau aniawnair;
Ni dheall yn gall un gair,
Na daioni, nôd anair.
4Didhawn hyffordh ffordh yw ffau — ef a dry,
Ddyfais drwg, yw dylau;
Ac ni wrthod, gyfnod gau,
Deuryw ogan a drygau.
5Dy drugaredh, medh Duw mau, — Iôr geirwir,
A gyrraedh nef olau;
A’th ffydhlonder, dyner dau,
A mawl hyd y cymmylau.
6Fal mynydh mawr, rhydh rhodher, — yn odiaeth,
Ydyw dy gyfiawnder;
Dy lan gadarn farn dhi fer,
Deufwy, Unduw, fal dyfnder.
Dydi a gedwi, o gydwedh, — dhawnus
Ddynion, a bwystfiledh;
7Mor orchestawl, mawl a’i medh,
Draw e gair dy drugaredh!
O’th ymdhiriaid, naid dan wyll — daioni,
Plant dynion sy ’n sefyll
Dan gysgod hynod, nid hyll,
Dewisgar, Duw, dy esgyll.
8A brasder dyner dy dŷ, — dhull union,
Y llenwi hwynt beunydh;
O dhŵr pleser, rhwydh‐der rhydh,
Iraidh wyd, rhoi dhiodydh.
9Can’s maith, diwyd taith, da wyt, ti — biau
Ffynnon bywyd, Geli;
Yn dy olau i ’n deli,
Ni ’ welwn oll olau ’ ni.
10Dod ras ir dinas dynion, — o’th hyder,
A’th edwyn dir awrhon;
A’th gyfiawnder, llawnder llon,
Yleni ir medhwl union.
11Traed balchdêr, fy Nêr, Iôn euraid, — wirbarch,
Na dhêl erbyn f’enaid;
Na’m cynhyrfer, plyger plaid,
Yn oer a llaw enwiriaid.
12Hynod swrth! isod syrthiasant, — oer dro,
I ’r drwg a weithiasant;
Dinystriwyd, plygwyd eu plant,
Ollawl, codi ni allant.

Dewis Presennol:

Psalmau 36: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda