Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 35

35
Y Psalm. XXXV. Cywydd Deuair Hirion.
1Dadleu, Arglwydh, da odli,
Wych o serch, fy achos i;
Yn erbyn gelyn gwaelwr,
Mawrboen oedh i’m erbyn, ŵr;
Ymladh yw erbyn ymlid,
Sy ’n ymladh i’m lladh a llid.
2Dyro di draw dy law lan,
Dyro, i’th glawr a’th darian;
Cyfod i dhyfod i dhydh,
I’m hachub yma echwydh.
3A’th waywffon gyfion i gant,
Rhagod i ffordh eu rhwygant;
Oerboen oll yw erbyn ef,
I’m erlid sydh a mawrlef:
Dywed i’m enaid a’i maeth,
Erod wyf iechydwriaeth.
4Gw ’radwydh ag aflwydh a gaid
Gweis a fyn geisio f’enaid;
Ysgilier hwynt, ’sgeler yw,
Dinystrier, dyna ystryw;
A dhychymmig, mawrdhig mau,
Ymannos dhrwg i minnau.
5Meinweis fal y manus fydh
O flaen y gwynt aflonydh;
Angel Iôn, ing a welyd,
A’u gwasgar a bar drwy ’r byd.
6Bid eu llwybrau ’n dyllau dig,
Dull uthr, yn dywyll lithrig;
Ag angel Duw, gonglaid wych,
I’w herlid yn ei hoerwlych.
7Heb achos, breuffos briffordh,
Rhwyd im’ a phwll rhoed i’m ffordh;
Clodhio i’m henaid, cladhu,
A chas fyth heb achos fu.
8Doed distryw yw fyw, yw fwth,
Idho siomiant disymmwth;
Y rhwyd a’i deil, (rhed y dall,)
Was sur, a roes i arall;
A syrthied, fab swrth hyd fyw,
Ond astrus, ir un distryw.
9Yno bydh llawen f’enaid
Yn yr Arglwydh rhwydh i’m rhaid;
Mewn llawenfyd, a ffryd ffraeth,
Dewrwych, ei iachawdwriaeth.
10Dywaid f’esgyrn chwyrn a chig,
Da obaith, Pwy sydh debig?
Gwaredaist yn gariadawl
Dylawd fyth, lle dylyd fawl,
Rhag y dyn, a’i rwyg o daw,
Hagr a fydh rhy gryf idhaw;
Tylawd truan, egwan iaith,
O ’r unrhyw, rhag yr anrhaith.
11Y tystion creulon eu cri
Gadwyd idhynt hwy godi;
Ac wedi, fy holi o hwn,
Anadhas beth ni wydhwn.
12Tros y dawn, trais a diwynaw,
Talwyd im’ ŵg a drwg draw,
I anrheithio, tro nid rhaid,
A fu anwyl, fy enaid.
13Oedhynt gleifion, weigion wedh,
Gwisgais garthen i’m gosgedh;
Ymprydiais, gostyngais daith,
Fy enaid araf fwyniaith;
A’m gwedhi, er llenwi lles
I minnau, trow’d i’m monwes.
14Ymdhygais a modh hygar,
Bryd un gwrs a brawd neu gar;
Ufydh alar fedhyliais,
Fal am fam, nid cam yw ’r cais.
15Ymgasglu, tyrru taerwaith,
Llawenfyd o’m hadfyd maith;
Oerwyr ymgasglant orig
I’m herbyn, Duw, mawrboen dig,
Ni wydhwn, archwn oerchwyth,
I’m rhwygaw heb beidiaw byth.
16Gwatwarwyr, difyr nid oedh,
Gwael adhysg, yn eu gwledhoedh,
Rhinciant dhannedh, gyfedh gêd,
I’m herbyn heb dhim arbed.
17Pa hyd, Arglwydh rhwydh a’m Rhi,
Ar drachwant yr edrychi?
Gwared f’enaid, naid a nerth,
Trwy offis, rhag eu trafferth;
Fy nghannaid enaid unig
Rhag llewod, ceudod y cig.
18I ’r dyrfa fawr draw fe fydh,
Bennaeth, it’ dhiolch beunydh;
A mawl a serch, aml a son,
Dawnus, yn mysg plant dynion.
19Na’d i’m galon ffromion, ffraeth,
Fostio ’r ol eu meistrolaeth,
Ag amnaid a’u llygaid llon, —
Na lawened ’ngelynion.
20Nid fal car, groywbar grybwyll,
Amcanant, d’wedant o dwyll
Yn erbyn ’sydh lonydh, lan,
Ar y dhaear oer dhiwan.
21Egynt eu safnau eigion,
Gan dh’wedyd, nid dybryd dôn,
Ha, ha! nôd trada nid rhaid,
Holl lwgr, gwylodh ein llygaid.
22Gwelaist hyn, Arglwydh gwiwlym;
Na fid distaw, draw dy rym;
Na fydh, Arglwydh rhwydh, rhodhwar,
Y’mhell anghysbell, fy Nghar;
23Deffro, nôd, cyfod Duw cu,
Im’ o burnerth, i’m barnu;
Fy achaws hynaws henwaf,
Fy Nuw, fy Arglwydh, fy Naf.
24Barn fi, dethol, yn ol, Nêr,
O fwyndaith, fy nghyfiawnder;
Na fydhed lawen ennyd,
I’m herbyn, ’gelyn i gyd.
25Na dhod yw calon dhideg
Lawenydh un dydh yn deg;
Na d’wedyd taerllyd oerllef,
O mael! difethasom ef.
26Cywilydh yw dydh, O dêl,
A derfid gwedi oerfel,
Sydh lawen gymmen dhi gêd,
Mewn awydh, o’m yniwed;
Bid eu dillad, frad heb fri,
O g’wilydh man eu gweli,
A ymgodant wrth ymgydiaw,
Oerboen drwch, i’m herbyn draw.
27Bydhant lawen, purbren pêr,
Fwyndeg, a gar ’nghyfiawnder;
D’wedant am ein Duw wedi,
Oh! mawryger ein Nêr ni,
A gar ffynniant, llwydhiant, lles,
Y gwas hoyw a dhangoses.
28Fy nhafawd, o draethawd, rydh
I’w gyfiawnder gof undydh;
A’i foliant hyd fy elawr
A edrydh beunydh bob awr.

Dewis Presennol:

Psalmau 35: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda