Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 37

37
Y Psalm. XXXVII. Englyn Unodl Union.
1Na fydh dhig orig, fe weryd — Duw ’n ol,
Rhag a wnel aflendyd;
Na dhal genfigen ennyd
Wrth anwiredh, budredh byd.
2Fal gwelltglas dyras a dorriant, — di syml,
Disymmwth y gwywant;
Fal glaswair a wnair uwch nant,
O lwyni, y diflannant.
3Ymdhiriaid it’ rhaid (nid tro adyn) — Dduw,
Gweithia ’n dha yw ga’lyn;
Trigi ’n war ir dhaear, dhyn,
Ti gai borth teg a berthyn.
4Yn yr Arglwydh, swydh ni sudhai, — blasus,
Bid dy bleser medhai;
Itti rhwydh etto rhodhai,
Eirchion ei galon a gai.
5D’amcanion union yna, — o fawredh,
A fwri ar Jehofa;
Ymdhiriaid, dywaid mai da,
A’th bur ffydh a’th berffeithia.
6Dy gyfiawnder, Nêr, a wnaeth — i liwio
Yn oleuad helaeth;
Fal canol dydh, rydh yr aeth,
Y dwg dy farnedigaeth.
7Yn dhistaw gwiliaw ar Geli — ganwaith;
Ag yna ni dhigi,
Er ffynnu o dhyn, gwỳn gyni,
Ddraig taer, a wnaiff dhrwg i ti.
8Gwrthod draw dhigiaw, dha agwedh, — a gwyrth,
Gwrthod lid a ffromedh;
Ac na phecha, gwaetha’ gwedh,
Yn dhiras o gyndharedh.
9Ond ’ rhai drwg, a gwg yn gaeth, — a dorrir,
Diriaid ŷnt ysywaeth:
A gwilio Duw, golud aeth,
Itti fydh etifedhiaeth.
10Yma hir bara, bai arial, — o drais,
Ni all drwg go wammal;
Tanwydh ni chair, hynt anial,
O chwalu a chwilio’i wal.
11Y rhinwedhawl hawl deheulu, — fadheu,
Cant fedhiant daeardu;
Llawen fydhant, a’i w ’rantu,
Llawn tangnefedh, cyfedh cu.
12Ysgeler cymmer bob camwedh, — oerbwngc,
Yn erbyn kyfiawnedh;
Ffrommi a rhincian dannedh
I’w erbyn, gelyn yw ’r gwedh.
13I’w frynti, Geli, Iôr gwar, — Duw eurglod,
Yr Arglwydh, a’i gwatwar;
Ef a wyl, fwy o alar,
Derfyn ei dhydh, bydh a bar.
14Tynnant gledhyf cryf, croyw ofeg, — beius,
A bwa saeth‐hedeg,
I ladh tlawd tafawd teg,
A ’r cyfion union waneg.
15Yn hyf y cledhyf cledhir, — O coeliwch,
Yn eu calon dhihir;
Eu bwa ’n ol, a bai ’n wir,
O daw orig, a dorrir.
16Gwell, gwir a enwir, y gronyn — o fath
A fytho ir kyfiawndhyn,
Na golud mawr y gelyn,
Wr galluog, dhifiog dhyn.
17Torrir, fe fwrir yn fyrion, — bar uwch,
Breichiau ’r annuwiolion;
Duw a gynnal, dyfal dôn,
Orau kof, y rhai cyfion.
18Gŵyr yntau ’r dydhiau didawl — daionus,
A gaiff dynion duwiawl;
A’u hetifedhiaeth, helaeth hawl,
Drig idhynt yn dragwydhawl.
19Mewn adfyd ennyd, fal anwir, — kofus,
Cyfiawn ni ch’wilydhir;
Pan dhêl newyn, gwŷn, mewn gwir,
Bid lawnedh, fe’u bodlonir.
20Diffydh draig dheunydh drwg dhynion, — dirfawr,
Duw, derfydh d’elynion
Fal mwg aberth, serth yw ’r sôn,
O ran gwêr yr oen gwirion.
21Fe dhwg fenthig, dig yw ’r dygiad, — leidryn,
Ni thal adre ’n wastad:
Mae gan gyfion rodhion rhad,
A’i drugaredh, drwy gariad.
22Os blith y bendith o ben — Naf fydhai,
Cawn fedhiant daearen;
E dorrir, fal y daren,
A rego ef o nef nen.
23Cynnal, diofal, Duw, a dawn, — gamran
A gym ’rodh gwr kyfiawn;
A Duw a gar yn deg iawn,
Enwog, ei lwybrau uniawn.
24Disgyned, deled pob dolef, — fawrair,
Ni fwrir o’i gartref;
A’i ogoniant, Duw gwiwnef,
Cawn o’i law, a’i cynnal ef.
25Bûm fachgen, wyf hen heb huno, — yn wael
Ni welais, wrth rodio,
Wrthod kyfiawn, dawn dano,
Na chardotta’i fara, fo.
26Trugarog, rhywiog yn eu rhaid, — a rhwydh
Y rhodhai ir trueiniaid;
Bendithion, gŵynion gweiniaid,
O lwydhiant, yw blant a’i blaid.
27Gwrthod di henwi a hawl — dhrygioni,
Daioni bid unawl;
Fe’th gedwir, medhir, a mawl,
Drwy y Gwiwdhuw, ’n dragwydhawl.
28Car Naf farn gadarn a gwir, — O kofiwch,
Cyfion ni wrthodir;
Etifedhion hwyrion, hir,
Y dyn astrus, dinystrir.
29Cyfiawnblant, medhiant modhawl — a gaffant,
A’i goffa ’n dhaearawl;
Yno trig o antur hawl,
A gwedhai, yn dragwydhawl.
30Genau kyfiawn llawn llenwir, — daith iawnwych,
A doethineb gwelir;
I dafod yn gwybod gwir,
Ag awydh, ir farn gywir.
31Cyfraith Nêr, dyner, da anian, — gela ’n
I galon berffeidhlan;
Ac ni symud, golud gan,
Ollawl, o’i lwybrau allan.
32Y cyfion union yno, — drwy wegi
Mae ’r drygwas yw wilio;
Ac ef a gais, (Oh drais dro!)
Ludh ofid, ei ladh efo.
33Ni ad Naf, araf wirio, — boen aml,
Hwn yma yw lithro;
Ni edir pan fernir fo, —
Ni fwrir o nef euro.
34Ceidw ’r Arglwydh rhwydh mewn rhaid, — wiw Eurner,
Arno ef sy ’n gwiliaid;
A gweli dorrir diriaid,
Medhienni ’n wir dir dy daid.
35Balchïo, chwydho, clywch wir, — a golud,
Y gwelais yr anwir;
A lled fal (lle dyfelir)
Pren cryfangog, cangog, ir.
36Er i hud golud, gwelais, — ag allai,
Fe gollodh ei fantais;
Ceisiwyd ef yw dref o drais,
Ag yn ol, gwn, na welais.
37Ystyriwch, gwelwch da yw gwedh — ’ cyfion,
A ’r union da’i rinwedh;
Terfyn hwn, trwy ofyn hedh
Yn hyfedr, yw tangnefedh.
38Dilëir, gyrrir, nid fal gwirion, — hwnt,
A fo hynt anghyson;
Torrir, terfynir trwy fôn,
Yn alaeth, annuwiolion.
39Hefyd, mae iechyd ichwi, — y cyfion,
Cofiwch Unduw Geli;
Y mae yn nerth yma i ni,
I ’n cul adwyth a ’n c’ledi.
40Fe helpia yna enaid — pob cyfion
Rhag gofal gorthrech‐blaid;
Yn dhifradw eu cadw y caid,
I Dduw Iôr a ymdhiriaid.

Dewis Presennol:

Psalmau 37: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda