Y Salmau 91
91
1Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf,
ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
2yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer,
fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
3Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,
ac oddi wrth bla difaol;
4bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,
a chei nodded dan ei adenydd;
bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
5Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,
na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,
6rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,
na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
7Er i fil syrthio wrth dy ochr,
a deng mil ar dy ddeheulaw,
eto ni chyffyrddir â thi.
8Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaid
ac yn gweld tâl y drygionus.
9Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;
gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa#91:9 Felly Fersiynau. Hebraeg, yn breswylfa.;
10ni ddigwydd niwed i ti,
ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion
i'th gadw yn dy holl ffyrdd;
12byddant yn dy godi ar eu dwylo
rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13Byddi'n troedio ar y llew a'r asb,
ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.
14“Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf;
fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.
15Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf;
byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder,
gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
16Digonaf ef â hir ddyddiau,
a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.”
Dewis Presennol:
Y Salmau 91: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004