Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 90

90
LLYFR 4
Gweddi. I Moses, gŵr Duw.
1Arglwydd, buost yn amddiffynfa#90:1 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, yn breswylfa. i ni
ymhob cenhedlaeth.
2Cyn geni'r mynyddoedd,
a chyn esgor ar y ddaear a'r byd,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
3Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch,
ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.”
4Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg
fel doe sydd wedi mynd heibio,
ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.
5Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd;
y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore—
6yn tyfu ac yn adfywio yn y bore,
ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.
7Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,
ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.
8Gosodaist ein camweddau o'th flaen,
ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.
9Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,
a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.
10Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd#90:10 Felly Fersiynau. Hebraeg, eu balchder. yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
11Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,
a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
12Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,
inni gael calon ddoeth.
13Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd?
Trugarha wrth dy weision.
14Digona ni yn y bore â'th gariad,
inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.
15Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni,
gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd.
16Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision,
a'th ogoniant i'w plant.
17Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom;
llwydda waith ein dwylo inni,
llwydda waith ein dwylo.

Dewis Presennol:

Y Salmau 90: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda