Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 92

92
Salm. Cân. Ar gyfer y Saboth.
1Da yw moliannu'r ARGLWYDD,
a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf,
2a chyhoeddi dy gariad yn y bore
a'th ffyddlondeb bob nos,
3gyda'r dectant a'r nabl
a chyda chordiau'r delyn.
4Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu â'th waith;
yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo.
5Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD,
a dwfn iawn dy feddyliau!
6Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod,
a ffŵl yw'r un sydd heb ddeall hyn:
7er i'r annuwiol dyfu fel glaswellt
ac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo,
eu bod i'w dinistrio am byth,
8ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.
9Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD,
wele, dy elynion a ddifethir,
a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.
10Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych,
ac eneiniaist fi ag olew croyw.
11Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion#92:11 Felly Fersiynau. Hebraeg, fy ngwylwyr.,
a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.
12Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd,
ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.
13Y maent wedi eu plannu yn nhŷ'r ARGLWYDD,
ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.
14Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint,
a pharhânt yn wyrdd ac iraidd.
15Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn,
ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo.

Dewis Presennol:

Y Salmau 92: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd