Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 61

61
I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd.
1Clyw fy nghri, O Dduw,
a gwrando ar fy ngweddi;
2o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,
pan yw fy nghalon ar suddo.
Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
3oherwydd buost ti'n gysgod imi,
yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4Gad imi aros yn dy babell am byth,
a llochesu dan gysgod dy adenydd.
Sela
5Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,
a gwnaethost ddymuniad#61:5 Tebygol. Hebraeg, etifeddiaeth. y rhai sy'n ofni dy enw.
6Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin,
a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;
7bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth;
bydded cariad a gwirionedd yn gwylio#61:7 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, paratoa gariad a gwirionedd iddynt wylio. drosto.
8Felly y canmolaf dy enw byth,
a thalu fy addunedau ddydd ar ôl dydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 61: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd