Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 62

62
I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. Salm. I Ddafydd.
1Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;
oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth.
2Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,
fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn,
bob un ohonoch, a'i falurio,
fel mur wedi gogwyddo
a chlawdd ar syrthio?
4Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle,
ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll;
y maent yn bendithio â'u genau,
ond ynddynt eu hunain yn melltithio.
Sela
5Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;
oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
6Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,
fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
7Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd;
fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
8Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl,
tywalltwch allan eich calon iddo;
Duw yw ein noddfa.
Sela
9Yn wir, nid yw gwrêng ond anadl,
nid yw bonedd ond rhith;
pan roddir hwy mewn clorian, codant—
y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.
10Peidiwch ag ymddiried mewn gormes,
na gobeithio'n ofer mewn lladrad;
er i gyfoeth amlhau,
peidiwch â gosod eich bryd arno.
11Unwaith y llefarodd Duw,
dwywaith y clywais hyn:
I Dduw y perthyn nerth,
12i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb;
yr wyt yn talu i bob un yn ôl ei weithredoedd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 62: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd