Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 60

60
I'r Cyfarwyddwr: ar Susan Eduth. Michtam, i hyfforddi. I Ddafydd, pan oedd yn ymladd yn erbyn Aram-naharaim ac Aram-soba, a Joab yn dychwelyd ac yn lladd deuddeng mil o Edom yn Nyffryn yr Halen.
1O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu;
buost yn ddicllon. Adfer ni!
2Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist;
trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian.
3Gwnaethost i'th bobl yfed#60:3 Tebygol. Hebraeg, weld. peth chwerw,
a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.
4Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,
iddynt ffoi ati rhag y bwa.
Sela
5Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,
achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
6Llefarodd Duw yn ei gysegr,
“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem
7a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
eiddof fi yw Gilead a Manasse,
Effraim yw fy helm,
a Jwda yw fy nheyrnwialen;
8Moab yw fy nysgl ymolchi,
ac at Edom y taflaf fy esgid;
ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
9Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?
Pwy a'm harwain#60:9 Felly Fersiynau. Hebraeg, harweiniodd. i Edom?
10Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,
a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?
11Rho inni gymorth rhag y gelyn,
oherwydd ofer yw ymwared dynol.
12Gyda Duw fe wnawn wrhydri;
ef fydd yn sathru ein gelynion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 60: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda