Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 59

59
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan anfonodd Saul rai i wylio ei gartref er mwyn ei ladd.
1Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O fy Nuw;
amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwyr.
2Gwared fi oddi wrth wneuthurwyr drygioni,
ac achub fi rhag rhai gwaedlyd.
3Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes;
y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf.
Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,
4heb fod drygioni ynof fi, rhedant i baratoi i'm herbyn.
Cyfod, tyrd ataf ac edrych.
5Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel;
deffro a chosba'r holl genhedloedd;
paid â thrugarhau wrth y drygionus dichellgar.
Sela
6Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵn
ac yn prowla trwy'r ddinas.
7Wele, y mae eu genau'n glafoerio,
y mae cleddyf rhwng eu gweflau.
“Pwy,” meddant, “sy'n clywed?”
8Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennau
ac yn gwawdio'r holl genhedloedd.
9O fy Nerth#59:9 Felly llawysgrifau a Fersiynau. Felly hefyd yn adn. 17. TM, Ei nerth., disgwyliaf wrthyt,
oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.
10Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;
O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.
11Paid â'u lladd rhag i'm pobl anghofio;
gwasgar hwy â'th nerth a darostwng hwy,
O Arglwydd, ein tarian.
12Am bechod eu genau a gair eu gwefusau,
dalier hwy gan eu balchder eu hunain.
Am y melltithion a'r celwyddau a lefarant,
13difa hwy yn dy lid, difa hwy'n llwyr,
fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau'r ddaear
mai Duw sy'n llywodraethu yn Jacob.
Sela
14Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵn
ac yn prowla trwy'r ddinas.
15Crwydrant gan chwilio am fwyd,
a grwgnach#59:15 Felly Fersiynau. Hebraeg, ac aros. onis digonir.
16Ond canaf fi am dy nerth,
a gorfoleddu yn y bore am dy ffyddlondeb;
oherwydd buost yn amddiffynfa i mi
ac yn noddfa yn nydd fy nghyfyngder.
17O fy Nerth, canaf fawl i ti,
oherwydd Duw yw f'amddiffynfa,
fy Nuw trugarog.

Dewis Presennol:

Y Salmau 59: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda