Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 43

43
1Cymer fy mhlaid, O Dduw,
ac amddiffyn fy achos
rhag pobl annheyrngar;
gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn,
2oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn.
Pam y gwrthodaist fi?
Pam y rhodiaf mewn galar,
wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?
3Anfon dy oleuni a'th wirionedd,
bydded iddynt fy arwain,
bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaidd
ac i'th drigfan.
4Yna dof at allor Duw,
at Dduw fy llawenydd;
llawenychaf#43:4 Tebygol. Hebraeg, at Dduw, hyfrydwch fy llawenydd. a'th foliannu â'r delyn,
O Dduw, fy Nuw.
5Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o'm mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a'm Duw.

Dewis Presennol:

Y Salmau 43: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda