Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 44

44
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Mascîl.
1O Dduw, clywsom â'n clustiau,
dywedodd ein hynafiaid wrthym
am y gwaith a wnaethost yn eu dyddiau hwy,
yn y dyddiau gynt â'th law dy hun#44:1 Hebraeg, â'th law dy hun ar ddechrau adn. 2..
2Gyrraist genhedloedd allan,
ond eu plannu hwy;
difethaist bobloedd,
ond eu llwyddo hwy;
3oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir,
ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth,
ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di,
a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi.
4Ti yw fy Mrenin a'm Duw,
ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob.
5Trwot ti y darostyngwn ein gelynion,
trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr.
6Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,
ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.
7Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelynion
a chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.
8Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio,
a chlodforwn dy enw am byth.
Sela
9Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,
ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.
10Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,
a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.
11Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,
a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.
12Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,
ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.
13Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,
yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.
14Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,
ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.
15Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd,
ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd
16o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,
ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.
17Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofio
na bod yn anffyddlon i'th gyfamod.
18Ni throdd ein calon oddi wrthyt,
ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau,
19i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacal
a'n gorchuddio â thywyllwch dudew.
20Pe baem wedi anghofio enw ein Duw
ac estyn ein dwylo at dduw estron,
21oni fyddai Duw wedi canfod hyn?
Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon.
22Ond er dy fwyn di fe'n lleddir drwy'r dydd,
a'n trin fel defaid i'w lladd.
23Ymysgwyd! Pam y cysgi, O Arglwydd?
Deffro! Paid â'n gwrthod am byth.
24Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb
ac yn anghofio'n hadfyd a'n gorthrwm?
25Y mae ein henaid yn ymostwng i'r llwch,
a'n cyrff yn wastad â'r ddaear.
26Cyfod i'n cynorthwyo.
Gwareda ni er mwyn dy ffyddlondeb.

Dewis Presennol:

Y Salmau 44: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda